Carfannau Oedran a Brechlynnau
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi argymell y dylai'r sawl o dan 30 oed yn y DU dderbyn brechlyn Covid sy'n wahanol i bigiad AstraZeneca.
Er mwyn sicrhau bod grwpiau oedran yng ngweddill y boblogaeth sy'n oedolion yn derbyn y brechlynnau sydd fwyaf priodol yn glinigol, byddwn yn anfon gwahoddiadau i apwyntiadau yn seiliedig ar ein cyflenwad o frechlynnau rhwng nawr a diwedd Gorffennaf.
Bydd hyn yn golygu y bydd rhai pobl rhwng 18-29 oed, efallai, yn derbyn cynnig am frechiad cyn rhai unigolion hŷn.
Er mwyn sicrhau bod ein cyflenwad o'r brechlyn yn cael ei roi yr un mor gyflym ag y byddwn yn ei dderbyn, byddwn yn parhau i gynnal dwy ffrwd ar gyfer y rheiny rhwng 18 a 49 oed.
Bydd un yn rhoi brechlyn Pfizer i'r rheiny o dan 30 oed, a bydd y llall yn rhoi brechlyn AstraZeneca Rhydychen i'r rheiny rhwng 30 a 49 oed.
Rydym yn mabwysiadu'r ymagwedd bragmatig hon er mwyn sicrhau na fydd brechlynnau'n cael eu gadael heb eu defnyddio am gyfnodau hir.
Bydd y rheiny o dan 30 oed sydd eisoes wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca Rhydychen am resymau iechyd yn parhau i dderbyn ail ddos o'r un brechlyn ar yr adeg briodol, gan nad oes unrhyw ddigwyddiadau negyddol difrifol wedi'u priodoli i ail ddosiau o frechlyn Rhydychen.
Mae hyn oll yn gyson â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gynnig brechiadau i weddill y boblogaeth sy'n oedolion ymhell cyn carreg filltir Llywodraeth Cymru ar gyfer diwedd mis Gorffennaf. Er bod rhywfaint o amrywio ar hyn o bryd o ran canran y bobl sy'n cael eu brechu ym mhob carfan mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, gallwn weld o'r apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf bod yr amrywiadau hyn yn sefydlogi.
Daw'r amrywiadau hyn o ganlyniad i faint poblogaeth carfannau unigol ym mhob ardal awdurdod lleol, y swm a'r math o frechlyn a dderbynnir, a'r angen i gynnig dos cyntaf o’r brechlyn sy'n wahanol i frechlyn AstraZeneca Rhydychen i'r rheiny o dan 30 oed, yn unol ag arweiniad sy'n deillio o gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Age Cohorts & Vaccines
The Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) and the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA) has recommended that under-30s in the UK are offered an alternative Covid vaccine to the AstraZeneca jab.
To ensure age groups within the remainder of the adult population receive the most clinically appropriate vaccines, we will be sending appointment invitations based on our delivery of vaccines from now until the end of July.
This will mean that some people aged 18-29 may be offered vaccination earlier than some older individuals.
To ensure our vaccine supply is administered as quickly as it is received, we will continue to run two streams for those aged 18-49.
One will deliver the Pfizer vaccine to those under the age of 30, and one will deliver the Oxford AstraZeneca vaccine to those aged between 30 and 49.
We are adopting this pragmatic approach to ensure vaccines are not left for long periods unused.
Those aged under 30 who have already received a first dose of the Oxford AstraZeneca vaccine for health reasons will continue to receive a second dose of the same vaccine at the due time, as there have been no serious adverse events attributed to second doses of the Oxford vaccine.
This is all consistent with advice from the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) and the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA).
We remain on course to offer vaccination to the remaining adult population well before the Welsh Government’s end of July milestone. Although there is currently some variation in the per cent of people vaccinated in each cohort in different local authority areas, we can see from appointment bookings for the next few weeks that this variation evens out.
This variation is a result of the population size of individual cohorts in each local authority area, the amount and type of vaccine received, and the need to offer an alternative first dose vaccine to the Oxford AstraZeneca vaccine to those aged under 30, in line with guidance from the advice from the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) and the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA).