Gwybodaeth Am Ein Apwyntiadau
SUT MAE'R APWYNTIADAU YN GWEITHIO.... dydi ddim yn bosibl i gael apwyntiadau sydd yn gweithio i bawb, rydym yn teimlo fod y ffordd yma yn rhoi dewis o feddyg i'r claf os ydi'n bosibl, ac hefyd yn gwneud siwr fod cleifion gyda phroblemi brys yn cael ei gweld ar yr un diwrnod.
Apwyntiad Brys
Rydych angen apwyntiad brys os oes gennych broblem sydd methu aros tan yr apwyntiad arferol nesaf. Os ydych angen apwyntiad brys, cysylltwch a'r derbynyddion. Byddant yn gofyn am fanylion o'ch salwch, mae hyn yn sicrhau os oes angen i chwi weld y meddyg na'i ynteu fuasai nyrs yn gwneud.Os oes gennych broblem gyda'ch dwr, fydd rhaid dod a sampl dwr gyda chwi, os oed gennych boen yn y frest fydd rhaid i'r nyrs wneud profiad calon arnoch.
Mae apwyntiad brys yn cael ei gynnig o 8 y bore, os cysylltwch cyn 12 dydd fe gewch apwyntiad cyn cinio. Os ydych yn cysylltu ar ol 12 dydd, byddwn yn ymofyn i chwi ffonio a'r ol 3 y pnawn pan fydd rhagor a apwyntiadau brys yn cael ei gollwng, cewch apwyntiad y pnawn/noswaith honno. Mae ein meddygon yn cymeryd ei tro i wasanaethu'r feddygfa brys, yn anffotunus ni fedrwn adael i chwi wybod enw y meddyg.
Apwyntiad Arferol
Fedrwch wneud apwyntiad arferol gyda feddyg o'ch dewis i fyny at bedair wythnos o flaen llaw, (os ydi gwyliau yn caniatau). Os ydych angen apwyntiad arferol cysylltwch a'r derbynyddion, a byddant yn hapus i roi apwyntiad nesaf i chwi.
Mae yna nifer o alwadau ffon peth cyntaf yn y bore am apwyntiadau brys, felly rydym yn gofyn i chwi gysylltu ar ol cinio am apwyntiad arferol.
Gwneud Apwyntiad:
Mae yn posib gwneud apwyntiad ar y we. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Os na allwch gadw apwyntiad, a fyddech ogystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda.
Plant Sâl
Bydd plant yn cael eu gweld cyn gynted ag y bo modd, os byddwch yn dod â nhw i’r feddygfa (gall hyn fod yn gynt na chael ymweliad cartref). Os nad ydych yn siwr ddylech ddod a’ch plentyn allan, ffoniwch y feddygfa gyntaf a gall y Meddyg eich cynghori.