Bydd y practis yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gofal o safon uchel i’r cleifion, a byddwn bob amser yn ceisio gweld sut mae gwella’r gwasanaethau i’r cleifion. Yr ydym wedi rhestru'n isod safonau’r gwasanaeth y gallwch ei disgwyl gan y practis hwn. Gofynnwn i chi gydweithio gyda ni trwy ddangos cwrteisi tuag at ein staff.
Safonau Gofal
Fel claf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi cofrestru gyda’n practis ni, bydd gennych yr hawl i’r canlynol:
- Cwrteisi a pharch oddi wrth ein staff.
- Preifatrwydd a chyfrinachedd wrth siarad ag unrhyw aelod o’r staff.
- Byddwch yn cael apwyntiad y diwrnod hwnnw os byddych angen gweld y Meddyg ar frys, neu gyn gynted ag y bo modd.
- Eglurhad clir am unrhyw driniaeth a gynigir i chi gan dîm ein practis.
- Bydd eich meddyginiaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd os ydych yn derbyn amlbresgripsiwn.
- Byddwch yn cael eich cyferio at Feddyg Ymgynghorol sy’n dderbyniol i chi, pan fydd eich
Meddyg Teulu yn meddwl bod angen gwneud hynny, a byddwch yn cael eich hanfon i gael ail-farn os ydych chi a’ch Meddyg Teulu yn cytuno mai dyna fyddai orau.
- Mae’r Ddeddf Diogelwch Data yn rhoi hawl i chi gael mynediad i’ch cofnodion iechyd. Ysgrifennwch at Reolwr y Practis os ydych yn dymuno gweld y cofnodion hynny neu i wneud copïau ohonynt. Efallai y codir tâl bychan am y gwasanaeth hwn.
- Bydd eich ymholiadau dros y ffôn yn cael eu hateb yn syth, ac yn cael eu trin yn effeithiol.
- Byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniadau profion a phelydr-x a chanlyniadau cleifion allanol pan fyddwch yn gofyn amdanynt.
- Byddwn yn ymdrechu i fodloni pob cais am apwyntiad gan gleifion. Hefyd:
- Gall cleifion cofrestredig rhwng 16 a 74 oed sydd heb gael eu gweld ers 3 blynedd ofyn am ymgynghoriad.
- Gall cleifion cofrestredig dros 75 oed sydd heb gael eu gweld ers 12 mis ofyn am ymgynghoriad. Os nad ydych yn medru mynd i’r feddygfa i gael yr ymgynghoriad hwn oherwydd salwch, gallwn drefnu ymweliad cartref.
Sut y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi
- Trwy fod yn gwrtais i bob aelod o’n staff.
- Trwy roi i’r Meddyg yr holl wybodaeth berthnasol am eich cyflwr a’ch hanes meddygol.
- Trwy roi gwybod i ni pan fyddwch yn symud t? neu’n newid eich rhif ffôn – mae’n rhaid i ni gael y manylion diweddaraf yn ein cofnodion.
- Trwy gadw apwyntiadau, a thrwy roi cymaint ag y bo modd o rybudd os byddwch yn gorfod eu delileu.
- Trwy ddefnyddio’ch apwyntiad ar gyfer un person yn unig.
- Trwy beidio â disgwyl presgripsiwn bob tro y byddwch yn gweld y Meddyg - mae dilyn ein cyngor yn gallu bod yn llawer mwy effeithiol na chyffuriau.
- Trwy roi rhybudd o dau ddiwrnod gwaith cyn casglu amlbresgripsiwn.
- Trwy gofio gwneud cais am ymweliad cartref cyn 10.00yb os ydych angen ymweliad cartref.
- Trwy alw’r Meddyg (y tu allan i oriau) mewn argyfwng yn unig ac nid i gael triniaeth arferol, apwyntiad neu bresgripsiwn.
Gallwch ein helpu trwy roi gwybod i ni pan na fyddwch yn fodlon gyda’r gwasanaethau a ddarperir gennym, neu os oes gennych sylwadau defnyddiol ynglyˆn â sut y gellir eu gwella. Mae blwch awgrymiadau ar gael ar gyfer eich sylwadau ynglyˆn â gwella ein gwasanaeth.
Rhyddid Gwybodaeth - Cynllun Cyhoeddiad
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gorfodi y Practis i gynhyrchu Cynllun Cyhoeddiad. Mae'r Cynllun yn arweinydd i'r fath o wybodaeth mae'r practis yn bwyriadu rhoi ar gael yn arferol.
Mae manylion ar gael or cynllun yn y dderbynfa..
Cleifion Treisgar
Ni fydd y practis yn goddef trais (corfforol neu eiriol), AC MAE GENNYM YR HAWL I DYNNU ENWAU CLEIFION oddi ar y rhestr yn syth er mwyn diogelu staff y practis, cleifion ac ymwelwyr eraill. Bydd y claf yn cael gwybod mewn llythyr bod ei enw wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr, a bydd yn cael ei gofnodi yng nghofnodion meddygol y claf ynghyd â’r amgylchiadau arbennig a arweiniodd at hyn. Y Bwrdd Iechyd Lleol fydd yn gyfrifol wedyn am ddarparu gofal meddygol pellach.