Clinigau Cynenedigol, Ôl-enedigol, ac Arolygu/Imiwneiddio Plant
Trwy apwyntiad yn unig (gweler Oriau r Feddygfa).
Prawf Ceg y Groth
Gwneir y profion hyn bob dydd gan Nyrsys y Practis trwy apwyntiad, a byddant yn cael eu gwneud bob tair blynedd. Mae hwn yn wasanaeth sgrinio pwysig - PEIDIWCH AG ANWYBYDDU EICH LLYTHYR ATGOFFA.
Os byddwch yn dymuno peidio â chael eich cynnwys yn y rhaglen Sgrinio Serfigol Cenedlaethol, ysgrifennych lythyr at eich Adran Iechyd, Preswylfa, Hendy Road, Mold CH7 1PZ yn datgan eich bod yn derbyn cyfrifoldeb llawn am eich dymuniad i beidio â chael eich cynnwys.
Dulliau Atal Cenhedlu Brys
Os byddwch angen cyngor ynglyˆn â dulliau atal cenhedlu brys, gellir gwneud apwyntiad ar y diwrnod hwnnw gyda nyrs, os na fydd meddyg ar gael. Mae hwn yn wasanaeth hollol gyfrinachol – bydd y derbynydd yn deall ac yn barod iawn i helpu. Neu gallwch gael cyngor gan fferyllydd.
Mân Driniaethau
Ewch i weld y Meddyg i gael eich asesu yn gyntaf.
Hylif Nitrogen
Ar gyfer rhai briwiau i’r croen. Ar yr ail a’r pedweydd dydd Mercher yng Nghaergybi - ewch i weld y Meddyg yn gyntaf.
Cyngor yngl n â Theithio a Brechu
Gwnewch apwyntiad gydag un o Nyrsys y Practis er mwyn cael cyngor ynglyˆn â theithio a hynny mewn da bryd cyn i chi fynd dramor er mwyn i’ch gofynion gael eu hasesu. Gall rhai amserlenni ar gyfer brechu fod yn gymhleth ac mae’n rhaid eu cynllunio o leiaf wyth wythnos cyn mynd dramor er mwyn cael yr amddiffyniad llwyraf rhag haint.
Mae cyngor ynglyˆn â theithio’n ddiogel yn bwysig felly ceisiwch gynllunio ymlaen llaw. Nid yw archebu gwyliau ar y funud olaf yn cael ei ystyried yn argyfwng a gall roi pwysau diangen ar bractis prysur pan fydd amser ar gyfer apwyntiadau yn brin. Os na allwn roi cymorth yn syth yn y feddygfa, gallwn roi manylion am y clinig teithio Preifat agosaf. Meddygfa Victoria yw’r Ganolfan Dwymyn Felen leol.
Sylwer: mae yn tâl am rai brechiadau sydd ddim ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Atal Ysmygu
Mae gennym gyn ghorwraig arbennig i’ch helpu roi gorau ysmygu-trwy gyngor neu feddyginiaeth.
Clinigau Ffliw
Gan amlaf bydd brechiadau ffliw blynyddol yn cael eu gwneud ar ddiwedd mis Medi. Bydd y cleifion sydd yn y grwˆp “mewn perygl” yn derbyn gwahoddiad trwy’r post. Hefyd gallwch ffonio i wneud apwyntiad ar gyfer un o’r sesiynau hyn. Os ydych yn meddwl y dylech gael brechiad, gofynnwch yn y dderbynfa. Os ydych yn perthyn i “gategori mewn perygl”, ac nad ydych eisiau cael brechiad rhowch wybod i staff y dderbynfa.
Brechiadau Niwmonia
Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi argymell y dylai pob claf sy’n 65 oed neu’n hyˆn, yn ogystal â’r rhai mewn grwpiau “mewn perygl”, gael eu brechu rhag haint niwmococol o 1af Ebrill 2005 ymlaen. Un pigiad yw’r brechiad hwn a gellir ei roi ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Dim ond un pigiad y byddwch ei angen; nid yw’n cael ei roi’n flynyddol fel brechiad ffliw. Gofynnwch am ragor o fanylion yn y dderbynfa.
Clinigau Adolygu
Mae ein practis yn cynnal clinigau adolygu blynyddol i’r rhai sy’n dioddef o Asthma, Clefydd y Galon, Pwysau Gwaed Uchel, Clefydd Siwgr Anadlu Cronig.
Mae’r nyrsys yn darparu gwasanaeth pwysig i chi trwy fonitro eich cyflwr yn flynyddol ac yn rhoi sylw i newidiadau posib yn eich anghenion.
Byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i’r clinig ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael prawf gwaed neu brawf d r cyn yr apwyntiad.
Os nad ydych yn dymuno dod i’r clinig, yna anfonwch lythyr at y meddyg fel bod eich dymuniad yn cael ei gofnodi.