Byddwn bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaethau gorau bosib, ond efallai y bydd adegau pan fyddwch yn teimlo nad yw hyn wedi digwydd. Mae’r wybodaeth canlynol yn egluro ein trefn cwyno mewnol sydd wedi ei llunio i ymateb i gwynion cleifion.
Nid yw trefn cwyno ein practis yn gallu ymdrin â chwestiynau ynglyˆn ag atebolrwydd cyfreithiol neu iawndal. Rydym yn gobeithio y byddwch yn defnyddio’r drefn i’n caniatáu ni i edrych i mewn i unrhyw broblemau yr ydych wedi eu canfod neu gamgymeriadau sydd wedi eu gwneud a’u cywiro lle bo angen. Os byddwch yn defnyddio’r drefn hon, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i wneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Sylwch fod yn rhaid i ni barchu ein dyletswydd o gyfrinachedd i gleifion a bydd yn rhaid cael caniatâd y claf os na fydd cwyn yn cael ei wneud gan y claf ei hun. Os ydych am wneud cwyn, ffoniwch neu ysgrifennwch at Reolwr y Practis. Byddwn yn cymryd y manylion llawn ac yn penderfynu ar y ffordd orau i ymchwilio i’r mater.
Credwn ei bod yn bwysig ymdrin â chwynion yn syth, felly byddwch yn cael cynnig apwyntiad i gael cyfarfod i drafod y mater o fewn saith diwrnod. Weithiau bydd hyn yn cymeryd mwy o amser ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi trwy’r amser. Gallwch ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i’r cyfarfod.
Byddwn yn ceisio ymateb i’ch pryderon, yn rhoi eglurhad i chi ac yn trafod unrhyw weithredu a fydd ei angen.