I gofrestru gyda’n meddygfa, ewch i weld staff y dderbynfa yn unrhyw un o’n tair cangen. Byddant yn gofyn am eich cerdyn meddygol neu’n rhoi ffurflen gofrestru i chi os yw eich cerdyn ar goll. O dan ein cytundeb Gwasanaeth Iechyd Gwladol presennol byddwch yn cael eich cofrestru gyda Meddygfa Victoria ac nid gyda Meddyg Teulu unigol.
Gallwch weld unrhyw un o’n partneriaid pan fyddwch angen gweld Meddyg fel y bydd y drefn apwyntiadau’n caniatáu.