Cyfleusterau ar gyfer Pobl Anabl
Mae rampiau a drysau llydan ym mhob un o’n meddygfeydd er mwyn hwyluso mynediad i gleifion anabl. Mae toiledau addas ar gyfer cleifion anabl ym mhob un o’n meddygfeydd.
Parcio Ceir
Mae’r maes parcio ar gyfer cleifion yng nghefn adeilad Meddygfa Victoria. Maes parcio bychan yw hwn, ac ni ddylid gadael ceir yno ac eithrio pan fyddwch yn mynd i’r feddygfa. Mae rhai o’r lleoedd parcio wedi’u cadw ar gyfer y Meddygon. A fyddech mor garedig â pheidio â chreu rhwystr yn y fynedfa gan fod cerbydau brys yn ei defnyddio.